Datganiad Prosesu Teg
Drwy gyrchu Carmarthenshire.employmentcheck.org.uk a rhoi eich manylion personol inni, rydych yn cytuno â thelerau ein polisi priefatrwydd fel y nodwyd yn y Datganiad Prosesu Teg hwn.
Bydd yr holl wybodaeth bersonol a ddarperir yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol, ac yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
Bydd data personol ond yn cael ei brosesu gyda chaniatâd yr unigolyn at ddibenion gweinyddu cais Datgelu. Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei dal mewn cronfa ddata a ddiogelir gan gyfrinair, yn unol ag ISO27001, a chyfyngir mynediad i unigolion penodedig y mae angen mynediad arnynt fel rhan o'u dyletswyddau arferol.
Mae'r holl wybodaeth yn cael ei chyflwyno i'r DBS a chan y gwasanaeth hwnnw drwy lwybr llywodraeth diogel. Caiff y wybodaeth ei hamgryptio wrth ei symud o le i le.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cyfeirio'r manylion a ddarperir ar y ffurflen gais hon at gyrff llywodraeth a gorfodi'r gyfraith yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd y manylion a ddarperir i'r cyrff hyn yn cael eu defnyddio i nodi achosion posibl o gydweddu â'r cofnodion a ddelir ganddynt. Pan sefydlir achos cydweddu o'r fath, gellir rhyddhau data i'r DBS er mwyn ei gynnwys ar unrhyw dystysgrif a roddir. Gellir defnyddio'r manylion a ddarperir ar y ffurflen hon i ddiweddaru'r cofnodion a ddelir gan y cyrff a enwir uchod. Gellir defnyddio'r manylion a ddarperir ar y ffurflen gais i wirio pwy ydych at ddibenion dilysu. Gall y DBS ddefnyddio unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y DBS ar dystysgrif, neu a ddelir fel arall gan y DBS, i lywio unrhyw rai o'i benderfyniadau gwahardd a wneir o dan ei bwerau yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed 2006.
Ni chaiff y wybodaeth ei rhannu ag unrhyw drydydd partïon eraill y tu hwnt i'r broses Ddatgelu, ac eithrio lle bo hynny'n ofynnol gan y Gyfraith, heb gael caniatâd penodol yr unigolyn
Bydd yr holl wybodaeth a ddelir yn dilyn cais Datgelu yn cael ei gwaredu'n ddiogel pan na fydd ei hangen mwyach.
Yn unol ag Adran 7 o'r Ddeddf, rhoddir copi ichi o unrhyw wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch os byddwch yn gwneud cais am hynny.
Mae'n ofynnol i unrhyw sefydliad sy'n defnyddio Employmentcheck.org.uk lofnodi contract a thrwy wneud hynny mae'n cytuno i:
- Cydymffurfio â Chôd Ymarfer y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998
- Cael polisi ar waith ar gyfer recriwtio cyn-droseddwyr
- Cael polisi ar waith ar gyfer storio, cadw, trafod, defnyddio a gwaredu datgeliadau a gwybodaeth am ddatgeliadau yn ddiogel.
Cofiwch fod y canlynol OND yn berthnasol i geisiadau safonol a manwl am wiriadau DBS, a dim ond mewn achosion lle na all ymgeisydd ddarparu dogfennau digonol fel prawf o'i hunaniaeth o dan feini prawf llwybr un.
Canllawiau gwirio hunaniaeth DBS
NID yw hyn yn berthnasol i wiriadau datgeliad sylfaenol Disclosure Scotland (euogfarnau heb ddarfod), er enghraifft ymgeiswyr y mae angen gwiriadau sylfaenol arnynt er mwyn cydymffurfio â gofynion y Safon Ddiogelwch Safonol ar gyfer Personél (BPSS)
GWIRIADAU HUNANIAETH ALLANOL - TELERAU AC AMODAU I'R DEFNYDDWYR
TELERAU DEFNYDDWYR GWASANAETHAU DATA EXPERIAN
Wrth sefydlu'r gwir hunaniaeth ymgeisydd, gellir defnyddio gwiriad dilysu ID allanol yn lle Llwybr 1 / 1a. Bydd hyn yn gofyn i ni ddarparu manylion ymgeisydd (fel cyflwynir ar y ffurflen gais) i'n cyflenwr dewisol Experian, a fydd yn cymharu'r data a gafwyd gan yr ymgeisydd yn erbyn ystod o ffynonellau data annibynnol, allanol.
Cymerwch funud i ddarllen y Telerau ac Amodau Experian o ran y telerau craidd sy'n ymwneud â natur a defnydd y gwasanaethau, cyfrinachedd, diogelu data, cydymffurfiad ac archwiliad.